Join Welsh festival colleagues for a day of insight, inspiration and networking:
- 10.30am: Registration and coffee: please give your input to the festival surgery session!
- 10.45am: Croeso/Welcome – Fiona Goh, BAFA
- 11am – 11.30am: Festivals Forward – Rhiannon Davies from BOP Consulting outlines the results of the BAFA commissioned national research on our sector, providing key data on scope, scale and activities of arts festivals, kickstarting conversations about current challenges, solutions and opportunities
- 11.30am – 12.30pm: Place and partnerships – how do festivals respond to the challenges and opportunities of their location, and what are the best ways to build strong local partnerships? Chaired by Alice Briggs, this panel discussion includes Krishnapriya Ramamoorthy of Paallam Arts, Sioned Edwards of Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llio Maddocks of Urdd Gobaith Cymru and Alison Giles of Presteigne Festival
- 12.30pm – 1.30pm: Lunch (not included but Tŷ Pawb has a range of food options onsite)
- 1.30pm – 2.30pm: Cymraeg/Welsh language and festivals – Fiona Goh of BAFA and Julia Cusworth present BAFA’s research on Welsh language and festivals, followed by an interactive session led by Einir Sion of Arts Council of Wales and Iwan Williams (member of Welsh Arts Consortium/Consortiwm Celf Cymraeg) on the best ways to develop the use of Welsh language within your festival
- 2.30pm – 2.40pm: Break
- 2.40pm – 3.30pm: Audience insight and inclusivity – Nancy Sheterline outlines the support and resources Audience Agency offer to festivals, and Rosanna Cant asks what it means for festivals’ audience development strategies to centre on inclusion
- 3.30pm – 4pm: Festival surgery – Fiona Goh of BAFA, Einir Sion and Suzanne Griffiths-Rees of Arts Council of Wales end the day with a chance for attendees to discuss any additional topics requested by attendees, and to respond to the day’s findings.
Tickets are £15 for non-BAFA members and free for BAFA Members. Tea and coffee will be provided but lunch is not included. Please join us! We will be providing BSL and Welsh translation on the day. When you book your ticket, please let us know if you will be using this translation as it will help us with our planning – thank you.
Ymunwch â chyd-wylwyr Cymru am ddiwrnod o ddysgu, ysbrydoli a rhwydweithio:
- 10:30am: Cofrestru a choffi: rhowch eich mewnbwn i sesiwn gymhorthfa’r ŵyl!
- 10:45am: Croeso – Fiona Goh, BAFA
- 11am–11:30am: ‘Festivals Forward’– Bydd Rhiannon Davies o BOP Consulting yn amlinellu canlyniadau ’r ymchwil cenedlaethol a gomisiynwyd gan BAFA ar ein sector. Bydd yn cynnig data allweddol ar gwmpas (scale), graddfa a gweithgareddau gwyliau celfyddydol, gan roi hwb i sgyrsiau am heriau, datrysiadau a chyfleoedd cyfredol.
- 11:30am–12:30pm: Lle a phartneriaethau – sut mae gwyliau yn ymateb i heriau a chyfleoedd eu lleoliad, a beth yw ’r ffyrdd gorau o adeiladu partneriaethau lleol cryf? O dan gadeiryddiaeth Alice Briggs, bydd y drafodaeth banel hon yn cynnwys Krishnapriya Ramamoorthy o Paallam Arts; Sioned Edwards o Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Llio Maddocks o Urdd Gobaith Cymru; ac Alison Giles o Ŵyl Llanandras.
- 12:30pm–1:30pm: Cinio (heb ei gynnwys ond mae gan Tŷ Pawb amrywiaeth o opsiynau o ran bwyd ar y safle)
- 1:30pm–2:30pm: Gwyliau a’r Gymraeg – Bydd Fiona Goh o BAFA a Julia Cusworth yn cyflwyno ymchwil BAFA ar berthynas gwyliau â’r Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan sesiwn ryngweithiol gan Einir Sion o Gyngor Celfyddydau Cymru ac Iwan Williams (aelod o Gonsortiwm Celf Cymraeg) ar y ffyrdd gorau o ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich gŵyl.
- 2:30pm–2:40pm: Egwyl
- 2:40pm–3:30pm: Safbwyntiau a chynwysoldeb cynulleidfa – Bydd Nancy Sheterline yn amlinellu’r gefnogaeth a’r adnoddau y mae’r Asiantaeth Cynulleidfa yn eu cynnig i wyliau. Bydd Rosanna Cant hefyd yn gofyn beth mae’n ei olygu wrth i strategaethau datblygu cynulleidfa gwyliau ganolbwyntio ar gynhwysiant
- 3:30pm–4pm: Cymhorthfa’r Ŵyl – Bydd Fiona Goh o BAFA, Einir Sion a Suzanne Griffiths-Rees o Gyngor Celfyddydau Cymru yn cloi’r diwrnod gyda chyfle i’r rhai sy’n bresennol drafod unrhyw bynciau ychwanegol o’u dewis, ac i ymateb i ganfyddiadau’r diwrnod.
Mae tocynnau’n £15 i unigolion nad ydynt yn aelodau o BAFA ac am ddim i Aelodau BAFA. Bydd te a choffi ar gael ond ni fyddwn yn darparu cinio. Ymunwch â ni da chi! Bydd dehonglydd BSL a chyfieithydd Cymraeg / Saesneg ar gael ar y diwrnod. Pan fyddwch yn archebu eich tocyn, rhowch wybod i ni os byddwch yn defnyddio gwasaneth dehongli neu gyfieithu gan y bydd yn ein helpu gyda’n cynllunio – diolch.